Thomas Merton | |
---|---|
Ganwyd | 31 Ionawr 1915, 15 Ionawr 1915 Prades |
Bu farw | 10 Rhagfyr 1968 o trydanladdiad Bangkok |
Dinasyddiaeth | Unol Daleithiau America |
Alma mater |
|
Galwedigaeth | diwinydd, bardd, awdur ysgrifau, hunangofiannydd, newyddiadurwr, ymgyrchydd heddwch, offeiriad Catholig, llenor |
Cyflogwr | |
Tad | Owen Merton |
Americanwr o dras gymysg a ddaeth yn gomiwnydd, yna'n Babydd, wedyn yn fynach Trapydd, ac yn olaf yn Fwdhydd Zen oedd Thomas Merton (31 Ionawr 1915 – 10 Rhagfyr 1968).
Ganed Thomas Merton yn Ffrainc ar 31 Ionawr 1915, yn nhref Prades (Pyrénées-Orientales). Gŵr o Seland Newydd oedd ei dad ac Americanes o dras Seisnig oedd ei fam.
Mewn gwirionedd doedd Thomas Merton byth yn feudwy. Roedd ganddo gyfeillion ar hyd a lled y byd - Bwdhyddion o Fietnam, mynachod Hindŵ, Meistri Zen o Japan, cyfrinwyr Swffi Mwslemaidd, athrawon crefydd a chyfriniaeth o Brifysgol Caersalem, athronwyr Ffrengig, celfyddwyr a beirdd o Ewrop, De America a'r Unol Daleithiau, ysgolheigion Arabaidd, cymdeithasegwyr Mecsicanaidd, ac yn y blaen. Ysgrifennai'r rhain ato yn rheolaidd gan ymddangos wrth ei ddrws ar ôl cerdded miloedd o filltiroedd i'w weld. Er fod profiad a safwbynt gwahanol gan gyfrinwyr Cristnogol, Bwdhyddion Zen, Mwslemiaid Swffi, dedlir y dengys digwyddiadau o'r fath eu bod yn gallu croesi ffiniau archddyfarniadau, trosgynnu dogma diwinyddiaeth, ac ennill y gallu i weld Duw trwy fyw, caru a bod, a chanfod Duw ym mhopeth.